Menu
Home Page

Croeso / Welcome

Neges gan y Pennaeth / A Message from the Headteacher

 

 

Annwyl Rieni / Warcheidwaid,

Mae’n bleser gennyf eich croesawu i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon.

 

Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn rhywbeth sydd o’r pwys mwyaf. Mae pob rhiant yn disgwyl addysg o safon eithriadol i’w plentyn/plant, ond maent am i’w plentyn/plant fod yn hapus a theimlo’n ddiogel tra’u bod yn yr ysgol. Yma yn Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon rydym yn credu y gallwn gynnig yr holl bethau hynny a mwy.

 

Yn Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon rydym yn ymfalchïo’n fawr yn yr addysg eang, gytbwys a chyflawn yr ydym yn ei darparu. Mae’r staff yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pob disgybl yn ein hysgol yn cyrraedd ac yn mynd y tu hwnt i’w potensial mewn amgylchedd hapus heriola diogel. Rydym yn ymfalchïo yn yr awyrgylch cyfeillgar a chydweithredol sydd wastad yn amlwg.

 

Mae nifer o ymwelwyr sy’n dod i’r ysgol wedi cydnabod y croeso cynnes y maent yn ei dderbyn a’r cwrteisi ac aeddfedrwydd a ddangosir gan ein disgyblion. Roedd ein Hadroddiad Arolygu gan Estyn yn 2013 yn nodi bod “Ymddygiad disgyblion a’u hagwedd tuag at ddysgu yn dda ac mae’r ysgol yn gymuned hapus, groesawgar a threfnus”.

 

Rydym yn gwerthfawrogi ein disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr ac yn bleserus. Pe baech yn dewis anfon eich plentyn/plant i Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, rwy’n gwbl hyderus y byddech wedi gwneud y penderfyniad cywir.

 

Edrychaf ymlaen at gwrdd a chydweithio gyda chi trwy gydol addysg eich plentyn yn Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â mi yn yr ysgol.

 

Yn ddiffuant,

 

Mrs. A. Tucknutt B.Ed. (Anrh) NPQH

Pennaeth

 

 

 

 

On behalf of myself, the staff, governors and pupils, I warmly welcome you to our school website.
 

Navigation through the various sections of our website will give you an insight into life at Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon along with information for children, current and prospective parents.

Our school mission statement is “Muriau Cadarn - Y Dyfodol”, “Four Great Walls - Surrounding the Future”.

The outstanding judgments, which were achieved in our Estyn Inspection Report in 2013, noted that “The school has a very friendly and inclusive ethos. There is a close-knit and welcoming community and a warm atmosphere between staff and pupils”.

Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon has gone from strength to strength since its official opening on November 27th 1992 with our total number of pupils on roll now at 261.

 

It gives me the utmost pleasure to be at the forefront of a happy friendly school, the key to a successful school is through the partnership that exists between all stakeholders.

As Headteacher of Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon, along with the support of all stakeholders involved in our school community I will ensure that every pupil in our school reaches and exceeds his / her full potential in a happy, creative and challenging environment


I hope we can all enjoy a long and successful working relationship with you and your child.

 

Yours sincerely,

 

A. Tucknutt (Mrs) B.Ed.(Hons), NPQH

Headteacher 

Top